Thomas JohnGRIFFITHSDymuna Nancy, Brenda, Marian, Wendy a'r teulu, Bron y Garth, Caernarfon, ddiolch yn ddiffuant i bawb am bob caredigrwydd a chydymdeimlad a dderbyniwyd yn eu profedigaeth o golli priod, tad, taid a hen-daid annwyl. Diolch am yr ymweliadau, galwadau ffôn a'r holl gardiau a oedd o gysur i ni fel teulu, ac hefyd am y rhoddion hael sydd i'w rhannu rhwng Ymchwil Cancr a 'Brain Tumour Research'. Diolch i'r Parchedig Ronald Williams a'r Parchedig Mererid Mair am eu gwasanaeth ddydd yr angladd, ac i'r organydd Mr Ieuan Jones, am ei wasanaeth yntau. Hefyd diolch i ofalwyr 'Gofal Bro' am eu gofal arbennig, ac i Roberts & Owen am eu trefniadau trylwyr.
Keep me informed of updates